Banner
Beth yw Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB)?
Pam ydw i wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB)?
Pwy sy'n delio ag anghydfodau ac apeliadau?
Beth sy’n digwydd os gwrthodaf dalu?


Isod ceir ein cwestiynau mwyaf cyffredin.



Beth yw Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB)?
Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn gynnig i chi dalu dirwy hytrach na chael eich erlyn gerbron llys ynadon. Mae’n bosib y cewch hysbysiad yn y fan a’r lle gan Swyddog Gorfodi'r Cyngor neu drwy’r post.
Os derbyniwch HCB ac yn derbyn eich euogrwydd ac yn talu’r ddirwy byddwch yn osgoi gwŷs llys ond os fe’i heriwch bydd yn rhaid i chi ymddangos yn y llys.

Pam ydw i wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB)?
Byddwch wedi derbyn HCB gan fod y Cyngor yn credu eich bod yn euog o gyflawni trosedd. Rydym yn cyhoeddi HCBau am ystod eang o weithrediadau anghyfreithlon megis sbwriela, codi arwyddion anghyfreithlon neu fethu â bod â thrwydded ddilys pan fo angen.
Bydd yr HCB yn cynnwys manylion y tramgwydd yr honnwyd eich bod wedi’i gyflawni yn ogystal â’r ddeddfwriaeth berthnasol y mae wedi’i gyhoeddi o dani.

Pwy sy'n delio ag anghydfodau ac apeliadau?
Ni all y Cyngor ddelio ag anghydfodau neu apeliadau. Os teimlwch fod gennych reswm da dros beidio â thalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig yna rhaid i chi aros am wŷs gan y llysoedd. Fodd bynnag, os cewch eich barnu’n euog gan y Llys gallai fod angen i chi dalu mwy na swm gwreiddiol y gosb benodedig.

Beth sy’n digwydd os gwrthodaf dalu?
Caiff yr achos ei gyfeirio at dîm cyfreithiol Cyngor Caerdydd a fydd wedyn yn dechrau gweithrediadau yn erbyn y troseddwr trwy’r Llys Ynadon Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn golygu y bydd y ddirwy yn cynyddu os cewch eich barnu’n euog a gallai fod angen talu costau eraill.

Yn ôl i’r brig

CYSYLLTU Â NI

CYFEIRIAD

Addysg a Gorfodi y Gwasanaethau Cymdogaeth,
Gweithrediadau’r Ddinas,
Cyngor Dinas Caerdydd,
Ffordd Lamby,
Tredelerch,
Caerdydd CF3 2HP
02920 872 087

ARDYSTIADAU

ISO 27001
ISO 9001
BIP 008

V 14.0.0.20